Welsh

hekateWelsh – Defod “Ei Thanau Sanctaidd”

Defod “Ei Thanau Sanctaidd”

Paratoad:

Dewch o hyd i le, ble gallwch chi’n perfformio’r ddefod heb aflonyddwch. Bydd angen i chi gannwyll (neu fath o dân defosiynol arall, er enghraifft llusern neu dân aelwyd) a rhywbeth i’w chynnau. Mae’n bosibl i chi gysegru’r gannwyll neu’r offer eraill y byddwch yn eu defnyddio yn ôl eich dulliau gweithio arferol o’ch traddodiad chi, fel arall sicrhwch bod hi’n lân.

Rhagarweiniad:

 

Gwnewch i chi’n gyfforddus, anadlwch yn ddwfn a dewch o hyd i’ch man  gydbwysedd, cydbwysedd y bryd a’r enaid a’r corff y bydd yn eich cyflwyno’ch i’r byd yn falch ac yn hardd. Anadlwch yn ddwfn a dewch o hyd i’ch llais, y llais y byddwch yn llefaru geiriau o amcan gwir a phur â nhw. Anadlwch yn ddwfn a galwch ar y rhyddid o fewn eich calon er mywn medru mynegi’ch hunan â phurdeb o amcan ac â nerth o ddymuniad.

Rhowch y ddwylaw ar eich calon (arhoswch tri churiad y calon), rhowch eich mynegfys a’ch bys canol o’ch llaw lywodraethol ar eich gwefusau  (tri churiad y calon) ac wedyn ar eich talcen (tri churiad y calon). Nawr amgaewch eich bodiau o fewn eich dwylo (mewn dyrnau) a chodwch eich dwy freichiau i’r nefoedd.

Agorwch eich dwylo, gyda phalf eich llaw chwith yn wynebu i fyny, gostyngwch eich llaw dde at ochr eich corff, y balf yn wynebu tuag at i lawr a galwch ar y Dduwies.

 

 

 

Ymbil:

 

“Galwaf arnat, Feistres y Nef, y Ddaear a’r Môr,

Trwy’th  ddirgelychau o Ddyd a Nos,

Trwy Olau’r Lleuad a Chysgod yr Haul

Galwaf arnat, Feistres y Bywyd, y Farwolaeth a’r Ailenedigaeth.

Deillia o Deyrnas y Cysgodion er mwyn bwyda’m henaid a goleuo’m bryd,

Feistres Ffurfiwyd yn Driphlyg, Feistres y Dri-ffordd

Erfynaf i ti, Feistres yn Cludo’r Allwedd, Feistres yr Eneidiau sydd yn crwydro’r Nos,  Epilio’th ddoethineb oddi wrth y sêr;

Erfynaf i ti ddod â’th dân y sêr oddi wrth y tywyllwch rhyngddynt

Grëwraig y Golau!

Dduwies Teyrnasoedd y Cysgodion! Frenhines sydd yn Cludo’r Golau!

Sibryda yn awr dy ddirgelychau!

Gudwraig y Tân! Frenhines y Ddaear! Frenhines y Nef!”

[Codwch y ddwylo gyda’r palfau i fyny tuag at i’r nefoedd (tri churiad y calon), wedyn cyffyrddwch y ddaear gyda’r palfau tuag at i lawr]

[Eisteddwch o flaen y gannwyll a pharatowch i’w chynnau]

[Cymerwch tri anadl ddwfn a gadewch i’ch synhwyrau ddeffro]

Dywedwch:

“Hecate, gilydd ac arweinydd i’r dirgelychau

Cyneuaf y tân hwn yn dy anrhydedd, [cyneuwch y tân]

Mae ei olau yn uno’r sêr a’r meini, y nefoedd a’r ddaear,

Trwy’r tân hwn, mynegaf fy awydd am ddealltwriaeth fwy o’th ddirgelychau.

Ascei Catascei Erôn Oreôn Iôr Mega Samniêr Bawi [dair gwaith] Phobantia Semnê,

Hecate Fawr sydd yn troelli we’r sêr a sydd yn llywio sbiral y bywyd

Arwaina fi tuag at lwybrau o ddealltwriaeth,

O Groesffordd i Groesffordd,

Bydd Arweddwyr y Ffagl ag Allwedd o’th ddirgelychau

Yn dod o hyd i’w gilydd.”

[Eisteddwch nawr a gwyliwch y fflam yn fflachlunio a dawnsio, gadewch i’ch hunan ganoli ar y lliwiau gwahanol yn y fflam: y melynion, y cochion, y gleision a’r gwynion a’r duon. Os dymunwch, efallai y penderfynech dreuli rhai amser  synfyfyrio ar y fflam, wrth chwilio am weledigaethau ac argoelion ynddi. Yn yr un modd, efallai y dymunech ddiffodd y fflam a chadw’r gannwyll, wrth adael i’ch Hunan gwir ddisgleirio ei ddirgelychau hardd yn llachar o heddiw ymlaen; mae fflam tân Hecate yn llosgi yn eich calon o hyd!]

“Alltudiaf yn awr cysgodion o amheuaeth o’m bryd,

Trwythwyd gan y distawrwydd a gan  dwymder ein cyfundeb.

Teimlaf dy lewyrch euraid o fewn fy nghalon

A gogoniant yr adnabyddiaeth ar fy nhalcen,

Yr wyf yn efrydydd o’th ddirgelychau.”

[Diffoddwch y fflam, wedyn rowch y ddwylo ar eich calon (tri churiad y calon), eich mynegfys a’ch bys canol o’ch llaw lywodraethol ar eich gwefusau  (tri churiad y calon) ac wedyn ar eich talcen (tri churiad y calon).]

[Agorwch eich palfau sydd yn estyn tuag at y nef, wedyn cyffyrddwch y Ddaear.]