Welsh – Defod “Ei Thanau Sanctaidd”
Defod “Ei Thanau Sanctaidd”
Paratoad:
Dewch o hyd i le, ble gallwch chi’n perfformio’r ddefod heb aflonyddwch. Bydd angen i chi gannwyll (neu fath o dân defosiynol arall, er enghraifft llusern neu dân aelwyd) a rhywbeth i’w chynnau. Mae’n bosibl i chi gysegru’r gannwyll neu’r offer eraill y byddwch yn eu defnyddio yn ôl eich dulliau gweithio arferol o’ch traddodiad chi, fel arall sicrhwch bod hi’n lân.
Rhagarweiniad:
Gwnewch i chi’n gyfforddus, anadlwch yn ddwfn a dewch o hyd i’ch man gydbwysedd, cydbwysedd y bryd a’r enaid a’r corff y bydd yn eich cyflwyno’ch i’r byd yn falch ac yn hardd. Anadlwch yn ddwfn a dewch o hyd i’ch llais, y llais y byddwch yn llefaru geiriau o amcan gwir a phur â nhw. Anadlwch yn ddwfn a galwch ar y rhyddid o fewn eich calon er mywn medru mynegi’ch hunan â phurdeb o amcan ac â nerth o ddymuniad.
Rhowch y ddwylaw ar eich calon (arhoswch tri churiad y calon), rhowch eich mynegfys a’ch bys canol o’ch llaw lywodraethol ar eich gwefusau (tri churiad y calon) ac wedyn ar eich talcen (tri churiad y calon). Nawr amgaewch eich bodiau o fewn eich dwylo (mewn dyrnau) a chodwch eich dwy freichiau i’r nefoedd.
Agorwch eich dwylo, gyda phalf eich llaw chwith yn wynebu i fyny, gostyngwch eich llaw dde at ochr eich corff, y balf yn wynebu tuag at i lawr a galwch ar y Dduwies.
Ymbil:
“Galwaf arnat, Feistres y Nef, y Ddaear a’r Môr,
Trwy’th ddirgelychau o Ddyd a Nos,
Trwy Olau’r Lleuad a Chysgod yr Haul
Galwaf arnat, Feistres y Bywyd, y Farwolaeth a’r Ailenedigaeth.
Deillia o Deyrnas y Cysgodion er mwyn bwyda’m henaid a goleuo’m bryd,
Feistres Ffurfiwyd yn Driphlyg, Feistres y Dri-ffordd
Erfynaf i ti, Feistres yn Cludo’r Allwedd, Feistres yr Eneidiau sydd yn crwydro’r Nos, Epilio’th ddoethineb oddi wrth y sêr;
Erfynaf i ti ddod â’th dân y sêr oddi wrth y tywyllwch rhyngddynt
Grëwraig y Golau!
Dduwies Teyrnasoedd y Cysgodion! Frenhines sydd yn Cludo’r Golau!
Sibryda yn awr dy ddirgelychau!
Gudwraig y Tân! Frenhines y Ddaear! Frenhines y Nef!”
[Codwch y ddwylo gyda’r palfau i fyny tuag at i’r nefoedd (tri churiad y calon), wedyn cyffyrddwch y ddaear gyda’r palfau tuag at i lawr]
[Eisteddwch o flaen y gannwyll a pharatowch i’w chynnau]
[Cymerwch tri anadl ddwfn a gadewch i’ch synhwyrau ddeffro]
Dywedwch:
“Hecate, gilydd ac arweinydd i’r dirgelychau
Cyneuaf y tân hwn yn dy anrhydedd, [cyneuwch y tân]
Mae ei olau yn uno’r sêr a’r meini, y nefoedd a’r ddaear,
Trwy’r tân hwn, mynegaf fy awydd am ddealltwriaeth fwy o’th ddirgelychau.
Ascei Catascei Erôn Oreôn Iôr Mega Samniêr Bawi [dair gwaith] Phobantia Semnê,
Hecate Fawr sydd yn troelli we’r sêr a sydd yn llywio sbiral y bywyd
Arwaina fi tuag at lwybrau o ddealltwriaeth,
O Groesffordd i Groesffordd,
Bydd Arweddwyr y Ffagl ag Allwedd o’th ddirgelychau
Yn dod o hyd i’w gilydd.”
[Eisteddwch nawr a gwyliwch y fflam yn fflachlunio a dawnsio, gadewch i’ch hunan ganoli ar y lliwiau gwahanol yn y fflam: y melynion, y cochion, y gleision a’r gwynion a’r duon. Os dymunwch, efallai y penderfynech dreuli rhai amser synfyfyrio ar y fflam, wrth chwilio am weledigaethau ac argoelion ynddi. Yn yr un modd, efallai y dymunech ddiffodd y fflam a chadw’r gannwyll, wrth adael i’ch Hunan gwir ddisgleirio ei ddirgelychau hardd yn llachar o heddiw ymlaen; mae fflam tân Hecate yn llosgi yn eich calon o hyd!]
“Alltudiaf yn awr cysgodion o amheuaeth o’m bryd,
Trwythwyd gan y distawrwydd a gan dwymder ein cyfundeb.
Teimlaf dy lewyrch euraid o fewn fy nghalon
A gogoniant yr adnabyddiaeth ar fy nhalcen,
Yr wyf yn efrydydd o’th ddirgelychau.”
[Diffoddwch y fflam, wedyn rowch y ddwylo ar eich calon (tri churiad y calon), eich mynegfys a’ch bys canol o’ch llaw lywodraethol ar eich gwefusau (tri churiad y calon) ac wedyn ar eich talcen (tri churiad y calon).]
[Agorwch eich palfau sydd yn estyn tuag at y nef, wedyn cyffyrddwch y Ddaear.]